Cynllun am yr dyfodol.
by
Sorry, but this one’s gonna be in Welsh guys!
Dwi wedi trio fy ngorau i ddysgu gymaint a sy’n bosib amdan hanes a ddiwylliant Cymru, ac sut mae’r byd o’n gwmpas wedi rhyngweithio a newid Cymru trwy’r oesoedd. Am wlad fach, mae ganddom ni hanes cyfoethog!
Yn dechrau gyda pobl yr Oes Carreg yn adeiladu Stonehenge, i amser y Dderwyddion a’r Celtiaid; wedyn gael ei ymgartrefi gan y Rhufeniaid, a wedyn i fod yr ardal olaf yn yr Ymerodraeth Rhufeinig yn y Gorllewin i ddisgyn! Gyda’r Saeson, Llychlynwyr a’r Normaniaid yn dwad nesaf, oedd ein oedran auraidd wedi ddod i ben…am rwan. 😉
Pan oeddwn i’n ifanc, mi o’n i’n drist i edrych yn ôl ar ein hanes i weld cysgod Lloegr dryddifero trwyddo. Ond am well na drwg, mae o wedi goroesi, ac does na ddim rheswm i fod yn drîst neu’n flîn amdano – nid oes modd ei newid.
Fellu, y peth gorau i wneud yw i edrych i’r dyfodol, a cofio y gorffenol – a chofio beth rydyn ni i gyd yn gallu ei wneud i wella pethau. Mae gen i syniadau am sut i wneud hyn. Rydym ni’n gallu teimlo sut mae’r celf a cerddoriaeth fod i fod, ac mae na llawer or fo’n gael eu creu! Ond, dim digon. Ac i if, dwi ddim yn teimlor diwilliant Cymru yn o yn digon.
Maen mwy phwysig nag eirioed i ni gweithio i’n gilydd a rhannu’n celf, cerddoriaeth, hanesyddion, syniadau…ac i barhau i siarad Cymraeg mor gymaint ag sy’n bosib. Sydd yn anodd os ydych yn byw tu allan o Gymru. Dwi wedi bod yn anffodus i fyw tu allan o’r wlas rwan am deg mlynedd, ond dwi’n dal yn canu ac yn siarad Cymraeg i fyn hun bob dydd…ond dwi’n gwybod mae fy acen wedi newid i fod yn rhyfedd iawn y bawb arall! 😀
Felly, am rwan, cwffiwch ymlaen!
Dyma rhai o fy nghaneuon i hefyd – na’i postio mwy yn y ddyfodol
Unfortunately I don’t speak Welsh, but I do think it’s great you write in Welsh – it’s important to keep celtic languages alive and this can only help and encourage. Diolch